Rhif y ddeiseb: P-06-1338

Teitl y ddeiseb: Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau.

Geiriad y ddeiseb: Yn ystod y pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ddiogelu’r rhwydwaith bysiau.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried dod â’r cynllun hwn i ben, er gwaethaf y ffaith nad yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

Rydym am weld y cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a chynllun adfer cenedlaethol ar gyfer y sector bysiau’n cael ei gynhyrchu ar y cyd â gweithredwyr bysiau, teithwyr, awdurdodau lleol ac eraill, er mwyn adeiladu gwasanaethau bysiau mwy cynhwysfawr a chynaliadwy.

 

 


1.        Y cefndir

Fel y mae’r siart isod yn ei ddangos, mae niferoedd y teithwyr wedi bod yn lleihau ledled Prydain Fawr, y tu allan i Lundain, ers degawd – sy’n rhan o duedd tuag i lawr sydd wedi bod yn digwydd ers amser.

Mae llawer o ffactorau y tu ôl i’r duedd hon, fel mwy o siopa ar-lein, dewisiadau amgen i deithio ar fysiau, a newid yn agweddau'r cyhoedd. Mae cynnydd mewn tagfeydd traffig hefyd yn ffactor allweddol sy'n effeithio ar hyfywedd gwasanaethau bysiau.

Fodd bynnag, mae'r siart hefyd yn dangos effaith ddifrifol y pandemig COVID-19. Mae’r galw wedi parhau’n isel yn dilyn pryderon cychwynnol ynghylch iechyd, a chyngor i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mynegai teithiau teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad a blwyddyn (ac eithrio Llundain)

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth (Saesneg yn unig)

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth (Saesneg yn unig)

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol, a gwasanaethau bysiau yn arbennig yn cael ei chydnabod yn eang fel rhywbeth pwysig, nid yn unig ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, ond hefyd i fynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth.

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Newid moddol a thargedau datgarboneiddio

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod 45 y cant o deithiau yn cael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol) erbyn 2040. Amcangyfrifir bod 32 y cant o deithiau'n cael eu gwneud fel hyn ar hyn o bryd.

Mae Cymru Sero Netyn anelu at ddisodli’r 50 y cant o fysiau sy’n llygru fwyaf gyda fflyd bysiau heb ddim allyriadau o bibellau mwg erbyn 2028.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cyrraedd ei thargedau newid moddol a sero net yn her fawr.

Cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth ariannol i’r diwydiant bysiau. Ym mis Ionawr, darparodd bapur i Bwyllgor y Senedd ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn amlinellu’r dyraniadau cyllideb ddrafft gan yr Adran Newid Hinsawdd ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad pum mlynedd o'r holl gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau drwy amrywiol sianeli (gweler tudalennau 15 ac 16 o'r papur).

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth sylweddol i wasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, drwy sefydlu’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau. Mae wedi parhau ar ryw ffurf neu'i gilydd ers dechrau 2020. Mae papur y gyllideb ddrafft yn nodi bod dros £150 miliwn wedi’i ddyrannu i’r Cynllun rhwng 2020-21 a 2022-23.

Mae'r papur hefyd yn dangos bod £28 miliwn o gyllid y Cynllun wedi'i gynnwys i ddechrau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Roedd hyn yn cyfateb i’r cyllid a ddarparwyd yn 2022-23.

Fodd bynnag, ar 10 Chwefror, llai na thair wythnos ar ôl sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 25 Ionawr gyda'r gweinidogion Newid Hinsawdd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod amheuaeth ynghylch dyfodol y cyllid hwn.

Cyhoeddodd y byddai cyfnod “pontio” o dri mis o fis Ebrill 2023 cyn i'r cynllun gael ei dynnu'n ôl. Dywedodd y byddai hyn yn caniatáu “sefydlogrwydd tymor byr” tra bod y llywodraeth a'r gweithredwyr “yn parhau i gydweithio ar gynllunio rhwydweithiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd yr ydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig.”

Mewn datganiad ym mis Mawrth 2023 dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, y byddai'r cynllun "nawr yn para hyd at 24 Gorffennaf 2023" - sef estyniad tair wythnos sy'n sicrhau bod trafnidiaeth i'r ysgol "yn parhau fel arfer".  Aiff y datganiad yn ei flaen i ddweud:

Rwyf wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol sefydlu timau cynllunio rhwydweithiau rhanbarthol, i ddeall effaith diwedd BES ac i ddatrys materion o ran y rhwydwaith sy'n debygol o godi yn sgil y newid i'r drefn ariannu.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith mor effeithlon â phosibl ac y gall cymaint â phosibl ei ddefnyddio.

Yn y datganiad hefyd cyhoeddwyd sefydlu panel o arbenigwyr i gynghori ar weithredu papur gwyn diwygio bysiau Llywodraeth Cymru 2022.

Ar 23 Mai gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad pellach yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau bysiau.  Dywedodd eu bod bron â chyrraedd datrysiad a fydd yn sicrhau bod rhagor o gyllid ar gael i ddiogelu cymaint o’r rhwydwaith â phosibl am weddill y flwyddyn ariannol hon. Byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46 miliwn ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi’r Cynllun Brys a threfniadau olynol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, yn ogystal â chyllid teithio rhatach a chefnogaeth reolaidd arall ar gyfer gwasanaethau.

Fodd bynnag, dywedodd mai’r her nawr yw dylunio rhwydwaith a all wasanaethu teithwyr orau yn yr amser sydd ar gael i gynllunio, ac o fewn y cyllid sydd ar gael.

Wrth ymateb i gwestiwn gan Jack Sargeant AS, dywedodd y Dirprwy Weinidog ei fod yn gobeithio, erbyn diwedd hyn, y bydd yn gallu rhoi sicrwydd i etholwyr Jack Sargeant y bydd llawer, os nad y rhan fwyaf o’r gwasanaethau, yn dal i fod yno.

Mae llythyr y Dirprwy Weinidog at y Cadeirydd yn ymateb i’r ddeiseb hon yn rhagddyddio’r datganiad ar 23 Mai. Mae'r datganiad yn cynrychioli'r sefyllfa ddiweddaraf.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae dyfodol y Cynllun Brys wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys yn nadl Plaid Cymru ar y mater ar 22 Mawrth. Mae nifer o gwestiynau ysgrifenedig wedi’u cyflwyno hefyd.

Cafodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith dystiolaeth ar 11 Mai gan awdurdodau lleol Cymru a chynrychiolwyr y diwydiant bysiau ar gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau yn dilyn y cyhoeddiad. Roedd y dystiolaeth hon yn pwysleisio maint yr her wrth ymateb i’r gostyngiadau cyllid, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd y sesiwn dystiolaeth hon yn dilyn ymlaen o ymchwiliad y Pwyllgor i deithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru y cyflwynwyd adroddiad ar y mater ym mis Ionawr 2023. Roedd yr ymchwiliad yn trafod sut y dylid cefnogi gwasanaethau bysiau a threnau i wella ar ôl effaith y pandemig COVID-19.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.